P-04-341 Gwastraff a Llosgi

Geiriad y Ddeiseb

 

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i:

1.      adolygu’r Prosiect Gwyrdd, sy’n mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru o ddarparu cyfleusterau yn lleol a chaniatáu i’n cynghorau ddewis eu systemau caffael eu hunain ar gyfer rheoli gwastraff a thechnoleg gwastraff;

2.      adolygu’r arolwg diffygiol ar wastraff yng Nghymru a oedd yn rhoi dau ddewis yn unig i bobl ynghylch gwaredu gwastraff;

3.      erbyn 2020, ei gwneud yn anghyfreithlon i losgi gwastraff y gellir ei ailgylchu gan y byddai hyn yn annog cynghorau i ailgylchu.

 

Cynigwyd gan: Terry Evans

 

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 15 Tachwedd 2011

 

Nifer y llofnodion:  21 (Casglwyd deiseb gysylltiedig 13,286 o lofnodion hefyd)